Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Chwefror 2021
Amser:
09.23 -
12.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11056
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Darren Millar AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Sioned Evans, Llywodraeth Cymru Tracey Burke, Llywodraeth Cymru Steve Davies, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2a Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Ei Wneud yn Wahanol, Ei Wneud yn Iawn? Llywodraethu yn y GIG yn ystod argyfwng COVID-19 – Themâu, gwersi a chyfleoedd allweddol
2b Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (28 Ionawr 2021)
2c Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (1 Chwefror 2021)
2d Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (1 Chwefror 2021)
3 Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Pumed Senedd: Llywodraeth Cymru - yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol
3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gydag Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol - Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol ynghylch ei fyfyrdod ar y Pumed Cynulliad/Senedd i helpu i lywio Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor.
4.3 Cytunodd Andrew Slade i anfon rhagor o wybodaeth ynghylch nifer o faterion.
4 Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Pumed Senedd: Llywodraeth Cymru – Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
4.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gyda Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol – y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch ei myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/Senedd i helpu i lywio Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor.
4.2 Cytunodd Tracey Burke i anfon rhagor o wybodaeth am nifer o faterion.
5 Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Trafod yr Ymateb gan Gomisiwn y Senedd
5.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r Craffu ar Gyfrifon 2019-20 a’i nodi.
5.2 Cytunwyd bod yr Adroddiad Gwaddol yn cynnwys argymhelliad i'r Pwyllgor olynol barhau i drafod Dangosyddion Perfformiad Allweddol gyda Chomisiwn y Senedd yn ystod ei waith craffu blynyddol ar y cyfrifon.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Pumed Senedd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth a gafwyd a'r hyn yr oeddent am ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Gwaddol.